Greg Hallam

Greg Hallam

Addysgwyd Greg Hallam yn Ysgol Gerdd Chetham's ym Manceinion, ac ym mis Gorffennaf y llynedd, graddiodd o'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ar ôl astudio Arwain Corawl gyda Patrick Russill a Paul Brough.  Dyfarnwyd MA ac LRAM iddo, y ddau gyda rhagoriaeth.  Cyflawnodd Greg ei radd baglor yn y Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu'n astudio llais gydag Ashley Stafford.

Bu Greg yn aelod o Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr am 10 mlynedd, ac ef oedd arweinydd adran y cantorion Bariton am sawl cwrs.  Aeth ar daith gyda'r Côr ddwywaith, ac mae bellach wedi dychwelyd yn aelod o staff ar gyfer y Corau Ieuenctid Cenedlaethol.  Greg oedd Cyfarwyddwr Cerdd cwrs y Côr Bechgyn ym mis Ebrill eleni.

Ar hyn o bryd, mae Greg yn dysgu canu yn Ysgol y Foneddiges Margaret, Parson's Green, Llundain, ac mae'n rhedeg pum côr yn wythnosol.  Ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Cymdeithas Gorawl Bracknell, Berkshire, ac mae'n gyffrous mai ef fydd yn dilyn yn ôl traed y sylfaenydd, John Hugh Thomas, trwy ofalu am Gôr Bach Abertawe o fis Medi eleni.

Yn 2008 ailsefydlwyd Gwyl Gerdd a Chelf Penkhull yn Stoke-on-Trent, dan arweiniad Greg, y Cyfarwyddwr Artistig.  Mae Penkhull wedi mwynhau pedair blynedd lwyddiannus o berfformiadau gan artistiaid megis The Swingle Singers, Voces8, The Little Baroque Company a Gwilym Simcock.

www.greghallam.moonfruit.com


Cysylltiadau

 

 

Y Cyngerdd Nesaf


YMHELL TU HWNT I'R SÊR – CERDDORIAETH GORAWL BRYDEINIG O FRI

Dydd Sul, 22ain Gorffennaf 2012.  Eglwys yr Holl Seintiau, Ystumllwynarth.
 

 

Cerddoriaeth i'w Llogi

Mae gan y côr gasgliad mawr o gerddoriaeth y gall corau eraill ei llogi.  Cliciwch yma i weld llyfrgell gerddoriaeth y côr.

Oriel