Y Côr

Côr Bach Abertawe

Ffurfiwyd Côr Bach Abertawe ym 1965 gyda'r nod penodol o gyflwyno gweithiau corawl gorau'r pum canrif diwethaf, i gynulleidfa mor eang â phosib, mewn dull mor broffesiynol a dilys â phosib.  Mae llawer o'r deugain aelod yn gantorion hyfforddedig ac yn athrawon cerddoriaeth.

Mae'r côr yn enwog am ei berfformiadau o gerddoriaeth Faróc, yn enwedig gweithiau mwyaf Bach.  Ei berfformiad o'r Matthäus-Passion, gyda Cherddorfa Oes yr Oleuedigaeth, oedd y tro cyntaf i'r campwaith mawreddog hwn gael ei glywed yng Nghymru i gyfeiliant cerddorfa gyfnod.  Bu'r perfformiadau o Johannes-Passion Bach a'i Offeren yn B Leiaf, Gosber 1610 Monteverdi, King Arthur Purcell, Messiah, a nifer o offerennau hwyr Haydn hefyd yn torri tir newydd, gan eu bod i gyd i gyfeiliant cerddorfeydd cyfnod.

Ym mhen arall y sbectrwm hanesyddol, derbyniodd perfformiad y côr o'r Gosber gan Rachmaninov, y cyntaf gan gôr o Gymru, ganmoliaeth aruchel.  Mae'r côr hefyd wedi perfformio llawer o weithiau o'r ugeinfed ganrif, yn cynnwys cyfansoddiadau pwysig gan Pizzetti, Frank Martin, Howells, Britten, Duruflé a gweithiau gan nifer o gyfansoddwyr o Gymru.


Cysylltiadau

 

 

Y Cyngerdd Nesaf


JESU, MEINE FREUDE

Nos Sadwrn, 17 Mawrth 2012, 7.30pm.  Eglwys y Santes Fair, Abertawe.
 

 

Cerddoriaeth i'w Llogi

Mae gan y côr gasgliad mawr o gerddoriaeth y gall corau eraill ei llogi.  Cliciwch yma i weld llyfrgell gerddoriaeth y côr.

Oriel