Tanysgrifwyr
Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cymorth a gawn gan ein tanysgrifwyr, ac rydym yn awyddus i gael hyd i ragor o bobl sy'n barod i'n helpu i gynnal a datblygu ein gwaith. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd tanysgrifwyr yn derbyn y canlynol:
• Cydnabod eu cefnogaeth yn rhaglenni'r cyngherddau
• Cael gwybod yn gynnar am gyngherddau a digwyddiadau eraill
• Cyfle i archebu tocynnau'n gynnar ar gyfer cyngherddau'r côr
• Gwahoddiad i unrhyw dderbyniad a drefnir gan y côr ar ôl cyngerdd
Tanysgrifiwr unigol: £25
Pâr: £35
Os hoffech gefnogi'r côr drwy ymuno â'r tanysgrifwyr, lawrlwythwch y ffurflen hon a'i llenwi, os gwelwch yn dda.
Cysylltiadau
Y Cyngerdd Nesaf
YMHELL TU HWNT I'R SÊR – CERDDORIAETH GORAWL BRYDEINIG O FRI
Dydd Sul, 22ain Gorffennaf 2012. Eglwys yr Holl Seintiau, Ystumllwynarth.



