Accompanist/Cyfeilydd

Alex Jenkins

Alex Jenkins read music at the University of Nottingham, graduating with a BA(Hons) and an MA. He was appointed Musician-in-Residence at Christ’s Hospital School in West Sussex for two years, where he later worked as a visiting piano teacher.

Alex graduated with distinction from his MPerf in Piano Accompaniment at the Royal College of Music (under the tutelage of Simon Lepper, Roger Vignoles and Andrew Zolinsky). While there, he was awarded the Titanic Memoriam Prize for best performance by a pianist in the Lies Askonas Vocal Competition and an accompanist’s prize at the Brooks-van der Pump English Song Competition, as well as performing at the Wigmore Hall, the Royal Albert Hall and the V&A Museum.

He is currently a professional accompanist and vocal coach at the Royal Welsh College of Music, working predominantly with the Vocal, Choral Conducting and Opera departments, and is musical director for the postgraduate opera scenes at RWCMD, as well as a senior vocal coach in his regular summer residency at Sherborne School of Music. In December 2022, Alex made his TV debut as the pianist for an S4C documentary alongside the Only Boys, Girls and Kids Aloud choirs and world-renowned soprano Rebecca Evans.

Alex regularly works with choirs, currently accompanying for Swansea Bach Choir and Kenfig Hill & District Male Voice Choir. Alongside the wealth of vocal music Alex is involved with, he is also a member of the Apollo Trio, with violinist Oliver Nelson and clarinettist Paul Vowles, having recently finished a thrilling summer recital series around the south of England.
 
Bu Alex Jenkins yn darllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol Nottingham, a graddiodd gyda BA(Anrh) ac MA. Fe’i penodwyd yn Gerddor Preswyl yn Ysgol Ysbyty Crist yng Ngorllewin Sussex am ddwy flynedd, a bu’n gweithio yno’n diweddarach fel athro piano gwadd. Graddiodd Alex gyda rhagoriaeth o’i MPerf mewn Cyfeilio ar y Piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol (dan gyfarwyddyd Simon Lepper, Roger Vignoles ac Andrew  Zolinsky). Yn ystod ei gyfnod yno, dyfarnwyd iddo Wobr Goffa Titanic am y perfformiad gorau gan bianydd yng Nghystadleuaeth Leisiol Lies Askonas, a gwobr cyfeilydd yng Nghystadleuaeth Cân Saesneg Brooks-van der Pump, a bu hefyd yn perfformio yn Neuadd Wigmore, Neuadd Frenhinol Albert ac Amgueddfa Victoria ac Albert.

Ar hyn o bryd mae’n gyfeilydd proffesiynol a hyfforddwr lleisiol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Cymru, yn gweithio’n bennaf gyda’r adrannau Lleisiol, Arwain Corawl ac Opera, ac mae’n gyfarwyddwr cerdd ar olygfeydd opera ôl-raddedig CBCDC, yn ogystal â bod yn uwch-hyfforddwr lleisiol yn ei gyfnod preswyl rheolaidd yn Ysgol
Gerdd Sherborne yn ystod yr haf. Ym mis Rhagfyr 2022, ymddangosodd Alex ar y teledu am y tro cyntaf yn bianydd mewn rhaglen ddogfen gan S4C, ochr yn ochr â chorau Only Boys, Girls and Kids Aloud a’r soprano fyd-enwog Rebecca Evans.

Mae Alex yn gweithio’n rheolaidd gyda chorau, ac yn cyfeilio ar hyn o bryd i Gôr Bach Abertawe a Chôr Meibion Mynydd Cynffig a’r Cyffiniau. Ochr yn ochr â’r cyfoeth o gerddoriaeth leisiol mae Alex yn ymwneud â hi, mae hefyd yn aelod o Driawd Apollo, gyda’r fiolinydd Oliver Nelson a’r clarinetydd Paul Vowles, ar ôl cwblhau cyfres gyffrous o ddatganiadau haf yn ne Lloegr yn ddiweddar.
 
Brought to you by Making Music
Copyright © 2026 Swansea Bach Choir